Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel,
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Medi 2023
Amser:
13.07 -
15.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13478
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Adam Price AS |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Piers Bisson, Llywodraeth Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)299 – Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru.
3.2 SL(6)370 - Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.
4.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
4.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Amgylchedd Bwyd Iach
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.3 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Addysg Ddewisol yn y Cartref
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith: Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
5.5 Cyflwyniad ysgrifenedig: Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE
Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig a ddarparwyd i’r ymchwiliad.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8 Gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar reoliadau sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023
Cytunodd y Pwyllgor ar ymateb i lythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch ei gynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog i ganiatáu ar gyfer y gweithdrefnau sydd eu hangen ar gyfer craffu ar reoliadau sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.
9 Blaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer yr wythnosau i ddod.
10 Trafodaeth y Pwyllgor ar Filiau Cydgrynhoi
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â Biliau Cydgrynhoi cyn adolygiad mwy sylweddol o’r broses graffu ar Filiau Cydgrynhoi.